HAFAN

Y GIGFRAN WEN

Y PROCER

 

Dros Briodas

 

Dyma’r Barnwr Paul Coleridge sy’ wedi beirniadu cyplau am ysgaru heb ystyried yr effeithiau ar eu plant. Mae wedi cychwyn ymgyrch i hyrwyddo a chefnogi’r ystad briodasol.  Onid dyna beth y mae’r Eglwys wedi ei wneud erioed? Efallai y bydd mwy yn gwrando ar y Barnwr nac arni hi.

 

Rhaid newid

 

Yn ôl Liam Byrne, un o brif wleidyddion y Blaid Lafur, rhaid newid y sustem bensiynau a budd-daliadau ym Mhrydain.  Nid ei bwriad oedd creu dosbarth fedr fyw heb weithio. Meddai –

“..the benefits system has 'skewed social behaviour' and provides too much 'unearned' support.” Ar hyn o bryd y mae budd-daliadau tai yn unig yn costio £20 biliwn; e.e. y mae rhent rhai tai yn Llundain yn costio £2,000 yr wythnos i’r wlad.

 

Thetans

Hwy yw ein cyndeidiau arall fydol yn ôl Eglwys Scientology a sefydlwyd ym 1954 gan yr awdur L. Ron

Hubbard.  Dysga fod ynom alluoedd cyfrinachol ac o’u cyrraedd medrwn deithio i ystad o ryddid ysbrydol ac o hapusrwydd.  Er bod llawer seleb yn aelod e.e. Tom Cruise, daeth dyddiau o anghytundeb arni gyda’r arweinyddiaeth yn cael ei chyhuddo o’i throi’n arf i gasglu arian na chaiff eu gwario ar ddim o bwys.

 

Dyma’r arweinydd  David Miscavige a gyhuddir o eistedd ar dros $1biliwn.

 

Bent arm of the law

 

Dywedir bod llawer o blismyn, sydd yn, ys dywed rhai, “Joking Policemen” wedi torri’r gyfraith.  Ar y brig gwelir y Metropolitan Force yn Llundain – y fwyaf ym Mhrydain, gyda 397 o blismyn wedi eu coll farnu. Drwy’r wlad dywedir bod 944 wedi syrthio’n brin.  Potsiar yn gofalu am y ffesants efallai?

 

255

Dyna faint o bobol  mae’r milwr, Chris Kyle wedi eu saethu yn Affganistan.  Lladdwyd 109  yn ystod rhyfel Fietnam gan Adlebert F Waldron. 

 

 

Bellach y mae Chris – Navy Seal yn lluoedd arfog yr U.D. wedi gadael y fyddin.  Y gwr a laddodd fwyaf yn ystod ei dymor fel milwr oedd Simo Häyhä, o fyddin y Ffindir, a saethodd   542 of filwyr Sofietaidd yn ystod yr ail rhyfel byd.  Pwy all farnu rhain, ond Duw?

 

Rhatach

Y mae bwyd yn llawer rhatach heddiw nag oedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Byddai angen £1,254.17 yn 1862 i lanw’r fasged wythnosol â bwyd a diod.  Y gost heddiw yw £93.35.

 

Gwariai teulu 13% o’u cyflog ar fwyd i’w gymharu a 7% heddiw neu 12% os ydych yn bwyta allan.

 

Trojan Horse

Y mae scamwyr wedi llunio rhaglen o feddalwedd syn ffugio cyfrifon banc, yn dwyn arian ac yn cymhwyso’r swm sydd ar ôl fel na fyddwch yn gwybod bod yr arian wedi mynd.  Fe ddowch i wybod maes o law wrth gwrs.  Byddwch effro a gofalus ar y We!

 

Gofalu

Dyna yw un o brif ddyletswyddau nyrs yn ôl y Prif Weinidog Mr Cameron.  Dylai pob dim arall gan gynnwys gwaith papur ddod yn ail i hynny.  Daw  ei eiriau ar ôl adroddiadau yn condemnio’r gofal a brofir gan lawer, yn enwedig yr henoed, yn ysbytai’r wlad. 

 

A oedd pethau’n well yn y cyfnod hwn? Mae’n debyg nad yw nyrsys bellach yn gweld y swydd fel “galwedigaeth “ ond fel “job.”  Maen dywyll pan fydd Prif Weinidog yn teimlo bod rhaid eu hatgofio i siarad â chleifion o leiaf unwaith bob awr!

 

Child poverty

Wrth edrych ar y map (tud. 5 Western Mail, Ion 10fed,) anodd oedd osgoi’r casgliad bod y tlodi hwn yn fwy amlwg mewn rhannau o Gymru sy wedi, ac yn, cael eu rheoli gan y Blaid Lafur.

Diffinir tlodi fel rhiant unigol ac un plentyn  ag incwm o lai na £7,000 y.f. neu gwpwl â dau o blant ag incwm o lai na £12,5000 y.f.  Yn ôl y mesur hwn, er engraifft, y mae 20% o blant Blaenau Gwent yn byw mewn tlodi dirfawr.  (Wales Online Gorff 29. 2011)

 


Women and Children First

Dyna fel oedd hi pan suddodd y Titanic ar Ebrill 15fed 1912, ond nid felly pan aeth y llong bleser Costa Concordia ar greigiau ynys Giglio drwy ddiofalwch, meddir, ei chapten. Roedd ef a’r criw gyda’r cyntaf oddi ar y llong.  Beth sydd wedi newid?  Bydd rhai yn rhoi’r bai ar lwyddiant “Women’s Lib” ac eraill ar  syniadau am gydraddoldeb.

 

Beth bynnag sydd wedi digwydd, deellir bod dros 15 wedi colli’u bywydau yn y drychineb a ddigwyddodd ddydd Gwener Ionawr 14eg.

 

For Wales see England

 

Dyna fel roedd hi, ond nid bellach oherwydd fod yr ISO (International Organisation for Standards) sydd â’i chanolfan yn Genefa wedi gosod Cymru fel Gwlad ac nid fel “Principality.”  Arweiniodd yr olaf i bobl gredu bod gan y Tywysog Charles safle gyfansoddiadol yn y wlad.  Nid yw hynny’n gywir.

 

£1,000,000,000,000.

 £ Triliwn! Dyna ddyled Prydain, neu os mynnwch  £16,072  pob person sy’n byw yma. Ys’ dywedodd Benjamin Franklin – “It is hard for an empty sack to stand upright.”

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

TOP

Y DUDALEN