|
Bydd merched da yn mynd i’r nefoedd, a bydd merched drwg yn mynd i bob man!
Slogan – World Whores Congress * Raid i actor da garu neb, ond ei hunan.
Jean Anouilh 1910-1987 * Byddai llawer o ddaioni’n absennol o’r bydysawd pe bae pob drwg yn cael ei rhwystro.
Thomas Aquinas 1225-1274 * Canlyniad trefniadaeth dyn yw cydraddoldeb, ni enir neb yn gydradd.
Hannah Ardent 1906 -1975 * Pobol drist yw’r bobol mwyaf digri.
Aristotle 384-322 CC * Perthyn pob cerddoriaeth i’r werin, ni chlywais erioed geffyl yn canu cân.
Louis Armstrong 1901-1971 * Edrychwn yn gyntaf am egwyddorion crefyddol a moesol; yn ail, ymarweddiad boneddigaidd; yn drydydd gallu meddyliol.
Thomas Arnold 1795-1842 (Prifathro Ysgol Rygbi) * Y mae grym y goron wedi cynyddu, a chynyddu, a dylid ei leihau.
Arglwydd Ashburton 1731-1783 * Prif beryglon y bywyd hwn yw’r bobol sy’ am newid dim, neu bopeth.
Lady Astor 1879-1964 * Rhaid gwneud arian rhag ofn na fyddwch farw!
Max Asnas * Y mae gan y Swyddfa Ryfel dair set o ffugurau: – un i gam arwain y cyhoedd, un i gam arwain y Cabinet ac un i gam arwain ei hunan.
Herbert J Asquith 1852-1928 * Y dasg anodda sy’ gan blant heddiw yw dysgu moesau da heb erioed eu gweld.
Fred Astaire 1899-1987
|
|
Dyfyniadau. |
|
HAFAN |

|
TOP Y DUDALEN |