|
Y Procer |
|
Tacsi Y mae Cyngor dinas Portsmouth yn printio ffurflenni cais am drwyddedi yrru tacsi mewn Braille. Y mae ganddynt hefyd ffurflen ar gyfer ymgeiswyr byddar!
Hei Tacsi! Ble? Eh?
Iechyd a Diogelwch? Nid oedd y ddau blismon ar y draffordd ger Lerpwl wedi cael hyfforddiant at y fath dasg, a heb ganddynt y cyfarpar angenrheidiol. Felly gadawsant Lee Fairbrother 26oed, oedd yn feddw caib ar alcohol a chyffuriau, i grwydro yng nghanol y traffic. Cafwyd ei gorff marw gan ‘Highway Agency Officers’ 40 munud yn ddiweddarach. Gofalwyd am lythyren y ddeddf ond nid am y person.
Arian da, lle diogel Gwas sifil yn yr Adran Amddiffyn yw Archie Hughes sy’n ennill 5 gwaith cyflog milwr yn ymladd yn Afghanistan.
Derbyniodd Ł200,000 mewn bonws yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Lle peryglus yw swyddfa, ynte?
Glendid a gwasanaeth Prin oedd Janet Halsall 74 oed yn disgwyl y byddai’n nyrsio cleifion yn ei ward pan aeth am driniaeth i ysbyty Hinchbrooke yn Huntingdon. Felly y bu, oherwydd yntau diffyg nifer digonol o staff, neu ddiffyg diddordeb y staff oedd yno i gyflenwi gofynion eu proffesiwn.
Yn anffodus ceir storďau tebyg yn agosach adre - neb yn ateb galwad ‘tŷ bach,’ neb yn fodlon helpu claf i fwyta’i fwyd, neb yn barod i sicrhau glendid person na ward ayyb. Ymhlith staff onid yw’n hawdd adnabod y rheini sy’n ei gyfrif yn job, a’r rhai sy’n ei weld yn alwedigaeth?
Addysg Mewn blynyddoedd tyner ysgol gynradd disgwylia Diana Johnson - Gweinidog Ysgolion -i’r bychain ddysgu am: Hiwmanistaeth, Atheistiaeth, Baha'i, Zoroastriaeth, Jainaeth, Bwdhaeth, Islam, Iddewiaeth, Siciaeth, a Christnogaeth, Hindŵaeth. Dyna gwricwlwm i dorri calon myfyriwr PhD heblaw bod tu hwnt i’r mwyafrif helaeth o athrawon ei gyflwyno.
Hindŵaid yn addoli wrth yr afon Ganges.
Cael Duw Profiadau chwerw bywyd arweiniodd yr AS Lembit Opik at Dduw. Bydd yn addoli’n gyson mewn Capel Efengylaidd Saesneg yn y Drenewydd. Ar ôl gofidiau’r llynedd a welir mwy o AS’s yn troi at yr Arglwydd?
Lembit Opik AS.
|
|
HAFAN |

|
YN OL |
|
TUD 2 |