HAFAN

INDECS ERTHYGLAU

Y GIGFRAN WEN

Diwylliant y Bonws

Ysgrifennir llawer y dyddiau hyn am y Bonws.  Y swm delir i rywun am wneud y gwaith y cytunodd ei wneud am dal penodol pan gafodd ei gyflogi.  Gellir tybio o ddilyn adroddiadau yn y wasg, nad yw’r gyflog ynddi ei hun yn ddigon i sicrhau bod y gweithiwr - bid fancer  neu  arall - yn cyflawni’r swydd hyd at orau ei allu.  Er mwyn cael  swydd wedi ei chyflawni yn gydwybodol a thrylwyr rhaid mae’n debyg gynnig Bonws!  Dyna swm o arian, neu ffurf arall o gydnabyddiaeth fel gwyliau, car newydd efallai, os caiff y gwaith ei wneud yn iawn.

Bydd rhai yn sicrhau bod cymal yn y cytundeb yn nodi y telir Bonws  yn dilyn llwyddiant yn y swydd. Dywedir, er enghraifft, bod hyn yn rhan o gytundebau byd bancwyr a phêl droedwyr.  Felly’r symiau mawrion glywir amdanynt o dro i’w gilydd.

Bonws sy’ wedi tynnu sylw’n ddiweddar yw hwnnw a delir i feddygon,  y “Consultants” a bod yn gywir. 

Nid yw hyn yn newydd. 

Mae mewn bod ers 1948 pan anwyd y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (NHS).  Bryd hynny nid pob meddyg oedd yn hapus â’r newid mewn trefn, ac er mwyn  braenaru’r tir i ennill cefnogaeth daeth y Bonws i’r bae. Math o lwgwr-wobrwyo - bribe- i dawelu protestiadau ydoedd.

Heddiw telir y Bonws i gydnabod “...excellence, quality, efficiency and innovation in clinical care, education, training and research in the NHS.”

Onid hyn yw’r gwaith? 

Onid oes hawl gan y treth-dalwr i ddisgwyl y safon uchaf heb fod angen talu ychwaneg am hynny?

A oes angen rhoddi Bonws i fecanig am drwsio olwyn fflat y car yn iawn?  Neu i beintiwr am beintio’r ty yn raenus? A.y.b. 

Yr un yw’r egwyddor.

Ar y llaw arall gwyddom am feddygon sy’ wedi gwasanaethu ardal arbennig yn ffyddlon dros flynyddoedd lawer.  Ar ymddeoliad, oherwydd gwerthfawrogiad ardal, bydd ambell un yn derbyn rhodd a gwyd allan o’r ffaith iddynt fynd yr ail filltir.  Ni roddwyd y gorau ganddynt er mwyn y gydnabyddiaeth - disgwylid hynny beth bynnag.

Mae’n debyg bod prinder ‘Consultants’ sy’ ar gyflog o £72,205 - £93,742 (basic).    Y rheswm, meddir, yw bod meddyg teulu mewn ‘General Practice’ yn ennill mwy.

Pam trafferthu felly â’r cyfrifoldeb a’r astudio ychwanegol? 

Oni fyddai’n well pe bae cyflog y ‘Consultant’ yn adlewyrchu ei ddoniau a’i ymroddiad yn hytrach na dal abwyd y Bonws o’i flaen?  Gall hwnnw wrth gwrs fod yn sylweddol - £200 miliwn tros Brydain, ac yn amrywio rhwng £35,484 a £75,976 yn ôl barn  y ‘BMA Consultants Committee’ sy’n ystyried y mater.

Be’ ddwedai Iesu tybed? 

Gofiwch chi y stori ganddo - nad aeth i lawr yn dda gyda’i wrandawyr gwreiddiol -  am weithwyr a gytunodd i weithio am dâl arbennig er cychwyn ar wahanol amserau yn y dydd.  Disgwyliai’r hwnnw a weithiodd yr oriau hwyaf fwy o dâl na’r sawl a weithiodd leiaf.  Yr un tâl gafodd pawb oherwydd:

 1. Dyna’r cytundeb.

2. Roedd yn ddigon ar gyfer angen pob un.

3. Roedd hawl gan y cyflogwr rannu ei eiddo fel y mynnai.

Ni fyddai hyn wrth fodd fawr o neb heddiw.  Rydym i gyd yn ystyried ein bod yn werth mwy nag a gawn, er nad oes efallai ei angen arnom. 

Prin yw pobol fel Albert Schweitzer neu’r Fam Theresa.

Yn y bôn, pobol y Bonws  ydym ni, ynte?

TOP

Y DUDALEN