|
Marc 8, adnod 24. Gallaf weld dynion fel coed yn cerdded… (neu fel y dywed yr Hen Gyfeithiad: Yr wyf yn gweld dynion megis prennau yn rhodio
Un o’r pethau diddorol am yr efengylau i gyd yw eu bod yn rhoi darluniau hollol wahanol i ni o dechegau neu ffyrdd Iesu o iachau. Cyffwrdd ymyl ei wisg yn unig wnaeth rhai. Cafodd un arall fwd wedi ei iro ar ei lygaid ganddo. Gair o orchymun roddodd Iesu o bell – doedd e ddim hyd yn oed wedi gweld y cleifion - ac fe wellodd mab y canwriad a merch y wraig o Tyrus. Rhoddodd orchymyn i ddyn yn y synogog i godi ei fraich ddiffrwyth, ac fe wnaeth. Dwedodd wrth un arall ar fat bod ei feiau wedi eu maddau ac wedyn am rowlio ei wely i fyny a mynd adref, ac fe gerddodd i ffwrdd yn hollol iawn. Cyffyrddod â thafod a chlusiau dyn mud a byddar a dweud y gair ‘Ephaphtha’. Pan ddaeth gwallgofddyn Gadara ato yn bytheirio ac yn griddfan, siaradodd a’r ysbrydion oedd ynddo a’i ryddhau o’u gafael trwy adael iddynt fynd i mewn i haid o foch. Mae’r rhestr yn ddiddorol. Cyffwrdd un dyn gwahanglwyfus a’i iachau, siarad wrth ddeg gwahanglwyfus o bell a’u hiachau – amrywiol dechnegau – nid boi i wneud pethau mewn un ffordd yn unig oedd Iesu mae’n amlwg, variety is the spice of healing oedd ei arwyddair!
Nawr te, dewch at y bobl ddall wellodd E eto am funud. Mwd ac anfon i lyn i ymolchi, dweud gair wrth Bartimeus ac ‘instant sight’, a nawr, fan yma ym Marc mae Iesu yn cyffwrdd dyn dall ac yn ei gyffwrdd eilwaith. Sylwch gyda llaw bod Iesu yn rhoi ei boer ei hunan ar lygaid y dyn – dim mwd wedi ei wneud o lwch a phoer y tro yma fel yn achos y claf anfonwyd i Siloam. (Roedd cred gynt gyda llaw bod rhinwedd arbennig mewn poer – tybed gofiwch chi hen rysait Gymreig o sut i gael gwared ar ddefaid ar y dwylo? Rhoi poer cyntaf y bore arnyn nhw, dyna beth fyddai’n giwar sicr meddai’r henair gynt.) Tybed gawsoch chi’r sbectols metel mawr, tew a thrwm pan oeddech chi’n mynd i gael prawf llygaid rhyw dro? Os do fe wyddoch bod yr optegydd yn rhoi gwydrau gwahanol ynddi ac yn dweud gan eu newid yn ol ac ymlaen, ’Nawr, well fel hyn neu fel hyn?’ A chwithau’n gorfod syllu ar lythrennau’r wyddor a dewis ym mha wydr mae nhw gliriaf? Wel, rydych chi a fi wedi cael rhyw fath o flas ar yr hyn welodd y dyn dall nyma felly wedi i’r Iesu ei gyffwrdd y tro cyntaf. Nid ein bod ni yn symud o dywyllwch llwyr i oleuni fel y gwnaeth ef ar y cyffyrddiad cyntaf gan Iesu, ond ein bod ni’n dechrau deall beth yw ffocws cywir. Sylwch yr hyn mae’r dyn yn ei ddweud pan mae Iesu yn gofyn iddo a oedd yn gweld unrhyw beth. Mae’n edrych i fyny meddai Marc (Pedr yn cofio’r symudiad ac wedi ei bwysleisio, efallai hyd yn oed ei actio iddo pan yn dweud y straeon am Iesu wrtho) ‘Rwy’n gweld dynion fel coed yn cerdded.’ Tybed a welsoch chi’r ffilm Ghost? Reit ar y diwedd mae’r arwr yn mynd i’r ochr draw ac yn cerdded o’r byd hwn i rywle arallfydol llawn goleuni (a la Hollywood wrth gwrs). Yno mae coed neu lwyni, neu tybed ai pobl ydyn nhw, ac mae’n cerdded i’w plith ac yn diflannu gyda hwy. Wel, rydwi’n rhyw gredu mai rhywbeth fel hyn welodd y dyn ar yr edrychiad cyntaf wedi i’r Iesu ei gyffwrdd. Mae hen air Cymraeg yn son am y cyfnos fel adeg ‘Pan fo cyfliw gwr a llwyn’ h.y. pan mae’n anodd dweud ai dyn neu berth sydd yno yn y gwyll. Mistec hawdd i’w wneud fel y gwyr unrhyw un gwangalon gyda brig yr hwyr pan fo heb Ever-Ready wrth law! Oes, mae tebygrwydd yn ddios – a dyma welodd y dyn yma mae’n siwr. Ond sylwch, mae’n gweld yn ddigon eglur i nodi eu bod yn cerdded o gwmpas. (Fel chi a fi heb lasus yn ceisio gweld i’r pellter). Ar hynny mae’r Iesu yn gwneud yr adjustment trwy roi ei ddwylo eto ar ei lygaid, ac ar yr ail dro hwn mae’r wyrth yn cicio i mewn ys dywed y Saeson – a sylwch bod Marc yn dyfynnu Pedr mae’n sicr ac yn dweud bod y dyn wedyn yn gweld yn eglur ac yn gallu adnabod pawb o bell – 20/20 vision a dim llai. Mae llawer o bobl yn credu bod Duw yn ein creu ac yna yn ein gadael ni i’n liwt ein hunain. Ei fod yn ein hachub ni unwaith ac am byth ac yna ffwrdd a chi a gofalwch chi am eich pethau. Ond nid felly mae Duw yn gwneud pethau wrth gwrs. Fe ofynnodd rhywun i General Booth un tro pam roedd yn gofyn bob tro yn ei weddi ‘Fill me with Thy Spirit Lord’. Oni fyddai gofyn unwaith a derbyn unwaith yn ddigon? Ac meddai Booth, ‘It’s because I leak.’ A gwir y dywedodd amdano’i hun a ninnau oll wrth gwrs. Mae Duw yn dod atom sawl gwaith i’n hadnewyddu a’n hiachau mewn rhyw ffordd neu’i gilydd – oherwydd bod angen adjystio arnom oll, sawl gwaith mewn oes. (Fel bręcs newydd ar gar neu gael cyfweliad gan feddyg cyn y gallwn ni ail-archebu presgripsiwn.) Mae Iesu yn gwella’r dyn yma trwy weithio arno ddwywaith. Mae’n cyffwrdd ynddo y tro cyntaf er mwyn iddo weld y goleuni, ac yn cyffwrdd ynddo’r eilwaith er mwyn sicrhau ei fod yn gallu adnabod a deall ac ymateb i’w amgylchfyd. Ac felly ninnau wrth gwrs, ac nid ddwywaith yn unig y mae angen iddo ein cyffwrdd ond beunydd a byth er mwyn i ni weld pethau yn iawn. Proses yw Cristnogaeth ac nid digwyddiad – ac mae’n gallu cymryd oes i ddysgu gweld o bell a gweld wyneb Duw ac adnabod Iesu yn iawn. |
|
Hafan |
|
Top y Dudalen |
|
|
At yr Indecs |