Salm 90, adnod 16.

Gweler dy waith tuag at dy weision,

a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.

 

Neu fel y dywed y Newydd,

Bydded dy weithredoedd yn amlwg

i’th weision a’th ogoniant i’w plant.

 

A’r Saesneg?

Let thy work appear unto thy servants

and thy glory unto their children.

 

Un o’r pethau rydyn ni bob amser ei eisiau yw medru gweld tyfiant ar ffurf lot o gynulleidfa. Rydyn ni mewn rhyw fath o loop lle rydyn ni’n credu bod llwyddiant yn golygu lot o bennau a rhywbeth yn digwydd.

Rwy’n cofio fel plentyn fy nhad yn plannu ffeuen mewn pot jam gyda phapur blotio i ddal y dwr er mwyn i mi allu gweld tyfiant hedyn. Roeddwn i yno bob pum munud wrth gwrs yn edrych – instant gratification sydd ar blant ei eisiau bob amser a does dim amynedd nac yfory yn eu geirfa!

Mwya’r piti doedd dim - gweledol - yn digwydd, ac fe anghofiais am yr hedyn am tuag wythnos. Ond pan es yn ôl i edrych wedyn, roedd y gwraidd allan a’r ddeilen gyntaf wedi ymddangos.

Peth digon tebyg i hynny yw tyfiant ysbrydol hefyd wrth gwrs. Dim byd yn ymddangos yn allanol am hydoedd o bosib, ond mae’r bywyn yno ac mae pethau yn digwydd yn yr anweledig.

Dim rhyfedd i’r Iesu son gymaint am hadau a’r dirgelwch sy’n perthyn iddynt, ac maen nhw ymhlith y lleiaf oll sy’n gallu tyfu’n anhygoel o anferth eu hamrywiaeth - fel Cristnogaeth wrth gwrs.

Ond nol â ni at y Salm.

Fe fetiai eich bod chi wedi canu yn yr ysgol gynt ‘O God, our help in ages past’ neu’r fersiwn Gymraeg – ar adeg blwyddyn newydd – ‘O Dduw, ein nerth mewn oesau fu’.

Wel dyna eiriau a symbylwyd gan Salm 90. ‘Ti, Arglwydd a fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth… fel yna mae’n dechrau. Ac mae’n mynd ymlaen i ddweud bod Duw yno cyn iddo greu’r mynyddoedd  a’i fod yn bodoli o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb – peth anodd i fodau sy’n byw am 70+ o flynyddoedd ei ddeall a’i ddirnad a dweud y lleiaf.

 Yna mae’r Salmydd yn mynd ymlaen i nodi pethau mor frau a gwael ydyn ni feidrolion gwan i gyd.

Allwn ni ddim dirnad byth beth yw nerth na chynddaredd yr Arglwydd ond mae’n gofyn i Dduw am adael i ni gael cip bach weithiau, bob hyn a hyn fel petai ar y cynfas llawn. A dyna lle mae’r adnod yma yn ymddangos.

Y GIGFRAN WEN

Hafan

Top y Dudalen

 

 

At yr Indecs