Blas Bach ar ‘Steddfod Glyn Ebwy 2010

 

Dydd Mercher ansicr o ran tywydd, ond y daith yn rhwydd y mws ‘Jones International’ Llandeilo. Disgyn o fewn ergyd carreg i’r fynedfa ac ymuno a’r llu’n anelu am y maes.

Stribyn hir oedd y lleoliad yn gorwedd mewn cwm o dan y dref.  Yno, fawr amser yn ôl gwelwyd un o weithfeydd dur mwyaf Ewrop. Bellach diflannodd bron bob olin o hynny heblaw un trên yn loncian  ar ychydig lathenni o drac -

ac un dwnsiwn a ddewiswyd i gartrefu ymdrechion a elwid yn Gelf a Chrefft.  I’r cyffredin, nid oedd llawer rhinwedd ynteu o gelf na chrefft mewn aml ddarn a welwyd yn dda ei hongian ar fur, neu yn waeth, ei wobrwyo.

 

Tynnodd cerflun o geffyl gwaith sylw - wedi ei lunio allan o haearn ac yn pwyso dwy dunnell.  Un waith, byddai’r pyllau glo’n dibynnu ar geffylau i dynnu dramiau dan ddaear, ac yn eu gwobrwyo gyda’g wythnos o olau dydd y flwyddyn.

Safai’r Babell fawr binc i oleuo darlun braidd yn drist o resi o stondinau’n cwtsio dan  gynfasau llwyd rhag y cawodydd glaw.  Dan do un ohonynt roedd yr Eglwysi’n cyfarfod i glywed pregeth, i rannu sgwrs dros baned o de, a chymdeithasu.

 

Fe ychwanegodd un o Weinidogion ifanc y Bedyddwyr at liw ac awyrgylch y maes

Y Parch Derek Rees (a’r farf).

Er y tywydd, allai newid ar amrantiad, gwenai’r rhan fwyaf a chanmol safon y cystadlu.  I unrhyw un yn ffansio’i hun yn feirniad yna’r rhagbrofion yw’r lle.  Yno clywir bob cystadleuydd a phrofir gwledd o dalentau, e.e. y 24 cystadleuydd yng nghystadleuaeth Richard Burton.  Yn sicr ‘roedd y ddau feirniad swyddogol wedi ennill eu tamaid.

Yna’r Babell Lên, ac ymryson y Beirdd yn dal  i’w llenwi i’r ymylon. Y gynulleidfa’n chwerthin un funud ac yn ddagreuol y nesaf. Nerth geiriau ynte!

Ym Mhabell y Pafiliwn gwelid yr ychydig oeddent wedi dod drwy dân y rhagbrofion i wefreiddio’r gwrandawyr gyda’i datganiadau a’u perfformiadau.  Diolch  am y ddwy sgrin fawr, neu prin fyddai wedi gweld  eu hwynebau, oherwydd pellter.

Y mae ein llongyfarchion gwresocaf ni i’r Prifardd Tudur Hallam ar gipio Cadair y Brifwyl. Bachgen o Rydaman ydyw, ac mae cryn falchder yn ei gamp fawr, fel sydd yn y gymuned tuag ato ef, ei rieni a’i frodyr.

Felly disgleiriodd perlau talent yr Hen Wlad unwaith eto.

HAFAN

INDECS ERTHYGLAU

Y GIGFRAN WEN

TOP

Y DUDALEN