Argraffiadau o Gyfarfodydd Blynyddol

Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion

a gynhaliwyd yng Nghapel

Pisga Bancffosfelen

Mai 18-19  2010

 

Codwyd braw wrth gyrraedd, mewn tywydd teg, o weld bechgyn B.T. wrthi’n newid un o’r polion yn union y tu allan i'r Capel.  Chware teg, ynteu’n fwriadol neu yn anfwriadol buont yn ddistaw tra bu'r cyfarfod ymlaen y bore hwnnw.

 

 

Roedd paned yn disgwyl pawb yn y festri a chroeso cynnes yn ein disgwyl  yn y capel.  Cafwyd adroddiadau - dim i gyffro’r galon na pheri chwys ar dalcen.  Pob dim yn hwylus a chyfforddus.

 

Clywyd hanes braidd yn drist gan arolygydd y Gymanfa - Parchg Irfon C Roberts - am sefyllfa rhai capeli yn y Gymanfa.  Codwyd calon pawb gyda’i adroddiad emosiynol am Glyn Nest, Cartref Henoed yr enwad yng Nghastell Newydd Emlyn.  Teimlai llawer yn y gynulleidfa fel bwcio gwely yno ar fyrder!

 

Parodd ein hysgrifennydd cyffredinol, y Parchg Peter Thomas  fraw pan aeth i  sôn am oblygiadau  gofynion Awdurdod Diogelwch Annibynnol (Independent Safeguarding Authority), a’r CRB Checks.  Fe’n hysbysodd y bydd rhaid i bob diacon ac ymddiriedolwr gael eu gwirio, ynghyd ag unrhyw un sy’n gwneud unrhyw beth yn enw’r Eglwys.  Yna erbyn 2015 bydd pob un yn cael rhif arbennig gan yr ISA: - y cyfan hwn er mwyn diogelu plant, ieuenctid, pobol fregus, henoed ayyb.   Nid oedd y gynhadledd yn hapus o gael ei dedfrydu’n euog a gorfod ei phrofi hi ei hunan yn ddieuog.

 

Gwelwyd pwyllgor Materion Cyhoeddus yn gofyn am ganiatâd i gyfarfod yn ôl y galw, er mwyn i’w benderfyniadau fod yn amserol; cam call a gafodd gefnogaeth gan bawb.

 

Roedd oedfa’r Llywydd yn un niferus.  Aeth y Parchg Glan Roberts a’i wrandawyr i lyfr Nehemeia, pennod 1 adnod 5.  Llywiodd ei fater yn fedrus ar dri phwynt - Paratoi, Pledio a Pwrpas.

 

Bu’r oedfa genhadol yn llwyddiant.  Roedd yno bedwar ifanc a oedd wedi treulio chwe mis yn Iwganda.  Diddorol ac adeiladol oedd eu clywed yn adrodd eu profiadau yno.  Safodd un frawddeg gyda phawb - “Yn Iwganda nid oes gennym ‘watches,’ ond y mae gennym amser!”

 

Synnwyd at weld cymaint o seddau gwag yn yr oedfa derfynol. Oedfa  bregethu ydoedd, a’r gennad oedd y Parchg Dyfrig Rees – Gweinidog gydag Annibeynwyr cylch Rhydaman - Gellimanwydd Rhydaman a Moreia Tycroes. Y mae a’r Parchg Glandwr Roberts yn byw drws nesaf i’w gilydd ym mhentref Tycroes. Ar ben hynny y mae’n un o blant y “Banc” (Bancffosfelen).  Roedd ganddo neges heriol a phraff.  Er i lawer feddwl na fyddai’n capel ni yn cau - cau yw ei hanes.  Gwelodd ein cyfnod yn adlewyrchu geiriau pennod  29 o lyfr Jeremeia. Gall y trai a’r dirwasgiad ar Gristnogaeth fod yn hir!

 

 

O’r chwith i’r dde: Parchg Judith Morris. Mr David Evans (Trysorydd y Gymanfa)

Parchedigion John Talfryn Jones,  Irfon C Roberts (Arolygydd y Gymanfa),

Dyfrig Rees, (Pregethwr gwadd) Glanville Roberts (Cyn lywydd)

 

Bu’r arlwy a baratowyd  gan ‘Gegin Fach y Wlad’ yn y neuadd gyfagos yn y pentref yn ardderchog.  Digon os nad gormod, a hwnnw o ansawdd arbennig.  Diolch i’r caredigion a aeth i’w pocedi i dalu amdano, ac am y rodd sylweddol a deerbyniwyd gan un chwaer yn arbennig at y bwyd.

 

Cymanfa hynod hapus o dan lywyddiaeth syml ac effeithiol, ond  tybed os yw ein dyfodol fel capeli fel y llun uchod o Pisga – niwlog?

INDECS ERTHYGLAU

Y GIGFRAN WEN

TOP

Y DUDALEN

Mehefin  2010

HAFAN