|
HAFAN |
|
Diwinydda’n y Mwg XX
Ron ni’n itha balch gweld cefen Ionawr a Chwefror, Y rhai oera ar record medde nhw. Rwy’n gwbod i fod wedi profi’n ‘hwerw iawn i lawer o deuluoedd, gida damweiniau ac yn y blan. Cliwes un bachan yn gofyn – ble odd Diw pan gwmpodd e’ a torri gos? Ac wrth gwrs, ma lot fowr yn gofyn ble odd Duw pan fuodd y daergryn na yn Haiti. Ma nhw’n gweud bod rhyw ddou can mil wedi cal i lladd yno.
Fe roies i yr un cwestiwne i Jac. Fel chi’n gwbod ma tipyn o sens da fe, yn ym marn i, ta beth. Ti’n gweld Penllwyn,’ medde fe. Mater o ffisics yw’r cwmpo ma. Os nag wyt ti’n sefyll yn saff a ma dy bwyse di yn mynd i un ochor, dos dim rifedd dy fod tin cwmpo.’ Colli balans ife Jac? – gofines inne, Ie na ti – colli balans. A sda hinni ddim byd i neud a Duw. Ie, OK. Fi’n galler gweld hinni, ond beth am Haiti…?
Raid cofio Penllwyn bach, bod nhw wedi bildo Port au Prince reit ar ben ‘Fault Line’.. ‘Fault Line?’ Ie, lle ma platie’r byd yn cwrddai gilydd… Platie’r byd? Penllwyn, paid acto mor dwp. Ti’n gwbod bod y cyfandirodd yn gorwe’ ar blatie mowr sy’n nofio ar y Magma yng nghanol y byd? Magma? Ie, y stwff ti’n weld yn poeri mas o ambell folceno .. Ah! Wy’i da ti nawr – a ma fe’n caledi yn graig ond yw e..? Odi. Wel ma’r plate ma yn symud ti’n gweld, a pryd hinni ma ta beth sy lan uwch uwch ben lle ma nhw cwrdd ai gilydd, yn cal shiglad. A na beth ddigwyddodd yn Haiti, ife? Ie, Ie. Odd da ge ddim byd i neud a Duw te? Nothing gwd boi. Dim byd. Dyn sy wedi neu mistec a codi tai mewn man cithrel o ddantsheris. A watsha di nawr – bydda nhw’n mynd nol i’r un lle a codi rhagor o dai.. Pam ni te Jac? Proffit gwd boi. Proffit. Ma rhyw ddifeloper yn rhwbio’i ddwylo’n barod wrth feddwl am y contracts fydd ar gal, i glirio ac i fildo. A ma rhai yn y lliwodreth yn edrych mlan at y breibs fydd yn llanw’i pocedi nhw.
Odd hin anodd iawn da fi gredu hinni a medde fi - Na, sai’n gweld neb yn mynd i neud na Jac. Nag wyt ti? Gad i fi dy atgofio di am Vesuvius.. Vesuvius? Be sa hwnnw neud a Haiti? Gronda nawr. Pan hwthodd hwnnw lan sha 49 wedi Crist, fe gladdodd ddou le mewn llwch, Pwy ddou le? Pompei a Herciwleniwm, O! Do do. A ti’n gwbod be netho nhw wedin? Netho nhw ddim ail godir llefydd yn yr un man os bosib? Naddo, dim cweit. Ond fe godon dref newi – just ochor arall yr un mynydd tan. Paid a gweud! Wir ti. Nepls yw enw’r lle, a gallu di fynd na heddi. Ond ma pethe’n saff nawr te, bownd o fod Jac, Saff! Gall yr un mynydd hwthi dop unrhyw funud, na’r gwir iti. Na ddangos pwy mor dwp ma dyn.
Ie. Ok. Ti wedi neud dy bwynt Jac, falle… A wedin, beth am San Ffransisco? Beth amdano fe? Ma hwnnw ar hollt o’r enw y San Andreas Fault – Ie ond… Ma nhw wedi cael blas o beth all ddigwydd.. Beth odd hwnnw te Jac? Daergryn 1906. Gas lot i lladd te? Do, sha 3,000, er bod y politishans yn gweud ma ond 376 farwodd.. Pam o nhw’n gweud celwydd? Rhag ofon i werth y tir gwmpo, a pobol ddim yn folon ail adeiladu’r lle.
Wel Wel! Ma pethe’n ddigon clir – dyn sy wrth wraidd i brobleme fan hyn. Na ti Penllwyn – ma Duw wedi rhoi intelijens iddo fe, a ma lan iddo fe i iwso fe yn lle conan pan fydd pethe’n mynd yn rong. Rodd yn amlwg i fi bod dyn yn galler bod yn ddwl iawn. Falle byth mor ddwl ac amser lecshwn….
Penllwyncoch
(i’w barhau) |

|
TOP Y DUDALEN |