|
Ioan 14, adnod 9. Y neb a’m gwelodd i a welodd y Tad.
Phillip sydd yn dweud y frawddeg bwysig sy’n achosi adnod y testun wrth iddo dorri ar draws sgwrs Iesu i’w ddisgyblion. ‘Dangos i ni y Tad’, meddai. Pwy oedd Phillip i ddechrau? Wel, dim ond Ioan sy’n dweud rhywbeth wrthym ni amdano yn fwy na’i enw hynny ydyw. Mae’n ymddangos yn y rhestr o ddisgyblion gan yr efengylwyr cyfolwg wrth gwrs, ond fe gawn wybod gan Ioan ei fod yn un o’r disgyblion cyntaf i ddilyn Iesu. Ioan ac Andreas oedd y ddau gyntaf, yna yn drydydd mae Phillip yn ymddangos yn y stori. Roedd yn dod o Fethsaida (The Fishing Quarter) yng Nghapernaum, yr un man a Phedr ac Andreas, ac o bosib yn eu hadnabod yn dda ac wedi cyd-bysgota gyda hwy neu weithio i’r cwmni Sebedeus a’i Feibion. Phillip sy’n mynd i ddweud wrth Nathanael (Bartholomeus mae’n debyg) am Iesu. Phillip hefyd sy’n dod a’r Groegiaid at Iesu ym, mhennod 12. Diddorol nodi fan hyn gyda llaw mai enw Groegaidd yw Phillip (mae’n golygu ‘un sy’n hoff o geffylau’ gyda llaw) ac mae’n bosib ei fod yn siarad Groeg felly yn rhugl (o leiaf, mae’n ei siarad yn ddigon da i’r Groegiaid o broselytiaid o Decapolis ar ochr ddwyreiniol Mor Galilea allu gofyn iddo am intro i’r Iesu.) Cofiwch hefyd mai enw Galilea oedd Galilea'r Cenhedloedd oherwydd bod nifer o ddinasoedd Groegaidd ar ochr ddwyreiniol y Môr a bod trafnidiaeth gyson yn mynd i lawr o’r byd cenhedlig trwy Galilea a thrwy Israel am gyfeiriad yr Aifft ac Arabia. Ar amgylchiad arall mae Phillip - meddai Ioan - yn nodi faint o fara fyddai ei angen ar bum mil o bobl i bawb gael llond ceg - sef gwerth dau gan ceiniog o fara, bron i gyflog tri chwarter blwyddyn. Felly roedd Phillip yn dda gydag amcangyfrif a chydag ail iaith. Ond fan hyn, mae mewn pysl. Mae Thomas wedi gwthio’r cwch i’r dwr ar ddechrau’r sgwrs yma. ‘Wyddom ni ddim lle rwyt ti’n mynd felly sut gallwn ni wybod y ffordd?’ yw geiriau Thomas. Mae’r Iesu yn ei ateb trwy ddweud mai Ei ei hunan yw’r ffordd. Ac yna mae Phillip yn taflu ei osodiad i mewn – fel ninnau mae am weld y Tad ei hunan. Pe bae ni jyst yn cael ei weld fe fyddai popeth yn ok meddwn ninnau yn union fel Phillip. Ac mae ateb Iesu yn ysgytwol ‘Mae’r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad’. Nawr, mae unrhyw un sy’n gallu gwneud y fath osodiad naill ai ar ei ffordd i Gefn Coed neu’n dweud y gwir, does dim dewis arall. Ys dywed y Sais, ‘He’s either mad, bad or God’. Wrth gwrs rydyn ni wedi clywed neu ddarllen y geiriau yma gymaint o weithiau nes eu bod yn hollol ddi-rym i ni bellach. Ond pan ystyriwn ni ddyfnder ystyr y geiriau ‘Y sawl a’m gwelodd i a welodd y Tad’, maen nhw’n ysgubol. Trwy ei efengyl mae Ioan yn pwysleisio dro ar ôl tro. Iesu oedd Duw yn y byd, Duw yn dangos ei hunan i ddynion, yn tabernaclu / campio gyda hwy meddai yn ei bennod gyntaf a sawl gwaith ar ôl hynny mae’n dewis arwyddion a geiriau i brofi mai Iesu oed Duw mewn dull dyn. Roedd geiriau’r Iesu a’r gwyrthiau a wnaeth yn dangos yn eglur pwy oedd i bobl gyffredin y tu allan i gylch y deuddeg, a fan hyn mae Iesu yn siarad gydag un oedd wedi bod gydag Ef ers y cychwyn cyntaf bron, reit ar ol Ioan ei hunan ac Andreas. ‘Ydw i wedi bod yn gwneud ac yn dweud popeth welaist ti hyd yma a dwyt ti’n dal ddim wedi deall pwy ydw i?’, dyna’r ffordd y byddai yn ei ddweud heddiw. A geiriau pertinent yw nhw hefyd - i ni. Digon hawdd gweld bai ar Phillip (a Thomas o ran hynny) ond beth amdanom ni. Ddywedwn ni ein bod ni wedi bod yn y cwrdd ac wedi clywed geiriau’r Deyrnas yn cael eu darllen a’u traddodi i ni am ddeg mis y flwyddyn am un oedfa bob Sul … dyna 42 awr fwy neu lai. A’n bod ni wedi bod yn mynd i gwrdd ddywedwn ni am 10 mlynedd… dyna 420 awr os yw fy sỳms i’n reit, ac wedyn mae sawl un mewn cynulleidfa yn methu deall beth yw’r efengyl a phwy yn union oedd Iesu. Efallai dylen ni i gyd roi Phillip yn enw canol i’n hunain! (A Thomas hefyd o bosib!) Ydych chi’n cofio’r llun enwog hwnnw ymddangosodd yn y News of The World neu’r People yn y chwedegau, Christ in the Snow? Rhyw ffotograffydd oedd yn teithio dros yr Alpau mewn awyren ac fe dynnodd lun o’r olygfa dano. Wedi ei ddatblygu fe welwyd bod ynddo batrymau o ddu a gwyn (ewch ar y We i’w weld nawr os mynnwch) y gellid eu dehongli fel wyneb Iesu. Rwy’n cofio edrych ac edrych ar y llun pan oeddwn i'n ifanc a gweld dim. Fy nhad yn dweud ‘Dyma’i wallt o, a dyma ochor ei wyneb,’ a minnau’n ddall. Ond un diwrnod, fe welais y peth drosof fi fy hunan, a byth ers hynny, bob tro byddai’n edrych, hyd yn oed wedi ysbaid o flynyddoedd, rwy’n gweld wyneb Iesu. Ac meddai Ef ei hunan, wrth i chi edrych arno i rydych chi’n gweld sut un yw Duw, ac unwaith byddwch chi wedi gweld hynny, fyddwch chi’n gweld dim ond hynny am byth. Nid Duw yn ei rym echrydus o bwerus sylwch, ond Duw yn ei ddynoldeb, Duw sydd yn cyffwrdd a ni ac yn dod yma i farw drosom ni ar groes - oherwydd dyna sy’n digwydd yn stori Ioan o hyn ymlaen. Y neb a’m gwelodd i a welodd y Tad meddai Iesu. Am ddweud! A sut un yw’r Tad felly? Un sy’n ein caru ddigon i daflu ei fab i ffwrdd er mwyn ei atgyfodi i’n hachub. |
|
Hafan |
|
Top y Dudalen |
|
|
At yr Indecs |