1 Corinthiaid, Pennod 13, adnod 12.

‘Eithr yn awr gweled yr ydym trwy ddrych’

neu yn y Cyfieithiad Newydd,

‘Yn awr, gweld mewn drych yr ydym a hynny’n aneglur’

 

Now we see through a glass, darkly yw un trosiad Saesneg ar yr adnod hon o’r bennod enwog yma, a phe baech chi’n darllen ymlaen yn yr hen drosiad fe gaech chi trwy ddrych, mewn dameg. Peth od i’w ddweud! Dameg wedi’r cyfan yw stori ddaearol ac iddi ystyr nefol meddai’r hen ddiffiniad. Ond ystyr gwreiddiol y gair ‘dameg’ yw ystyr cudd, ystyr tywyll, is-ystyr i chi feddwl amdano, a rhywbeth y gellir ei ddeall ar ddwy lefel. Os cofiwch mae Iesu yn dweud bod ei eiriau ynghudd oddi wrth rai er ei fod yn eu dweud wrth bawb, a bod rhai yn deall a rhai ddim. Yn wir mae’n dyfynnu Eseia i brofi ei bwynt mai fel hyn y bu hi erioed. (Gweler *****). Fe  fyddai rhai yn deall a rhai ddim. Felly mae ‘trwy ddrych mewn dameg’  yn yr Hen Destun yn golygu mewn cod, yn guddiedig, yn beth na ellir ei ddirnad a’i ddeall yn llwyr, a dyna ystyr gliriach yn dod yn syth i ni pan edrychwn ar y Newydd, ‘trwy ddrych, yn aneglur.

Nawr i chi a fi sydd wedi ein magu o’n hieuenctid ar fynd i siop y barbwr a gallu gweld steil y gwallt ar gefn y pen yn hollol ddidramgwydd, neu fynd i brynu cot newydd ac edrych arni yn y drych i weld sut mae hi’n edrych amdanom ni, does dim arlliw o flas aneglurder  yn perthyn i’r perfformansus yma. Rydyn ni’n edrych yn y drych adref cyn mynd allan i wneud yn siŵr bod y gwallt yn drefnus. Mewn sawl handbag slawer dydd roedd poced fach ar gael i roi drych bach sgwâr ynddo, (os byddai’n fag drud, byddai’r drych yno’n barod) a phe bai chi yn yr ysgol fel fi fe fyddech chi’n edrych yn feunyddiol ar ferched ifanc yn ymbincio yn y drych bach sy’n ffitio’n dwt i’r cas pensiliau. Rydyn ni’n cymryd y drych fel peth handi a defnyddiol ac yn ei drin yn beth hollol gyffredin. Heblaw am saith mlynedd o anlwc does dim galar mawr os bydd rhywun yn torri un! Mae’n ddigon hawdd cael un arall wrth gwrs.

Ond, yn yn nyddiau ysgrifennu 1 Corinthiaid - sef o Effesus o bosib yng ngwanwyn y flwyddyn cyn i Paul gael ei arestio yn Jerwsalem (tua 58 O.C.) - doedd cael drych ddim yn beth hawdd i bobl gyffredin. Teclyn i’r cyfoethog oedd drych. Efydd wedi ei doddi neu bres oedd eu defnydd mwyaf cyffredin, er bod rhai wedi eu darganfod wedi eu gwneud o dun, arian a hyd yn oed aur. Nawr, os buoch chi yn glanhau’r brasus erioed ac wedi eu rhwbio nes eu bod nhw’n ddisglair fe fyddwch wedi gweld eich llun ar eu harwynebedd. Nid llun perffaith ohonoch chi o bell ffordd, nid llun fel pe baech chi yn y siop trin gwallt wrth gwrs, ond fe fyddech yn gallu adnabod eich hunan er bod siâp go od arnoch o bosib os mai mewn bowlen neu ar ochr fas bres roeddech chi’n chwilio - fel drychau celwyddog Marine Lake slawer dydd! Roedd yr hen ddrychau pres yma yn nyddiau Paul yn fflat eu hwynebau crwn neu sgwâr wrth gwrs ac yn aml roedd dolen addurnedig hardd er mwyn i’r edrychyd cael eu dal yn y llaw. Ond er gorau dyfeisgarwch y gwneuthurwr ac er druted i’r prynwr, doedden nhw byth yn gallu rhoi darlun hollol glir ohonynt eu hunain i’r sawl oedd yn edrych ynddynt. Rhai bach yw nhw i gyd i ddechrau, felly dim ond yr wyneb ellid ei weld ynddynt a doedd dim posib i rywun yn y cynfyd weld ei hunan i gyd ar yr un pryd heb son am weld ei gefn yn glir.

Mae’n amlwg bod Paul wedi gweld drych fel hyn, mae’n gwneud cyfeiriad yn 2 Corinthiaid 3, 18 at yr un peth. Ond fan hyn mae Paul yn ceisio esbonio rhywbeth pwysig iawn am fywyd i ddilynwyr Iesu yn yr eglwys gosmopolitiadd a thrafferthus yng Nghorinth yn y ganrif gyntaf. Dydyn ni ddim yn gallu gweld pob peth yn glir meddai, a dydyn ni ddim yn gallu deall pob peth yn berffaith chwaith. A hyd yn oed yn y dyddiau yma pan mae map genomau gwenith wedi ei gwblhau (mae’n fwy anodd a dryslyd na’r un dynol meddir!) allwn ninnau chwaith fyth ddeall popeth.

Pam y caiff bwystfilod rheibus dorri’r egin man i lawr? yw cwestiwn oesol Pantycelyn - ac maen nhw’n dweud mai wedi iddo golli ei ferch fach yr ysgrifennodd y geiriau. Ac efallai ein bod ni’r ddynoliaeth yn gallu esbonio llawer iawn o bethau bellach, ond wrth gwrs mae llawer iawn mwy o gwestiynau - yn enwedig y rhai haniaethol na all gwyddoniaeth eu dodi dan chwyddwydr i’w datrys fesul darn - sy’n ddryswch llwyr i ni.

Ond sylwch beth yw neges Paul fan hyn. Ym mhle mae’r adnod yn ymddangos? Yn y bennod fawr ar gariad wrth gwrs. Fel hyn mae eisiau i chi fyw meddai Paul: D’yw popeth rydyn ni’n ei ystyried mor bwysig yn yr eglwys nawr, llefaru mewn tafodau, proffwydo, gweithredoedd da, hunan-offrwm, gwybodaeth oruwchnaturiol, dydyn nhw’n ddim o’u cymharu â chariad, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod popeth a fyddwn ni byth nes ein bod ni wedi ein lapio’n dyn yng nghariad Duw yn y byd a ddaw. Fe wnawn ni’n gorau fan hyn, ond all ein gorau fyth fod yn ddigon oherwydd mae ein deall heb ddod i’w lawn dwf. Plant ifanc ydyn ni o’u cymharu â bodau ysbrydol yr ochor draw ac felly mae ein deall ni’n naturiol blentynnaidd. Cariad yw’r unig beth sy’n cyfrif. Oes mae ffydd a gobaith, ond fel yr un ddisg ar y Desert Island yn ffefryn ac yn dweud y cwbl, Cariad yw’r un sy’n dweud y cyfan.

Nawr, fe allem ni bawb holi’n gilydd yn dwll ac athronyddu a chonstro am flynyddoedd pam mae pethau yn digwydd, pam bod yr eglwys yma yng Nghymru yn y stad y mae hi, pam bod y ddynoliaeth mor hawdd i’w gwyro tuag at ddrygioni, pam bod pethau ofnadwy yn digwydd i bobl dda, pam bod y diniwed yn dioddef, ac fe fyddem ni yma tan Sul y Pys a phobl yn cario bwyd i ni, ond fydden ni ddim nes at yr ateb. Ddeallwn ni byth - OND - rhaid i ni i gyd gofio nad ydyn ni yn gallu gweld pethau mor eglur ag y mae Duw, Iesu a’r Ysbryd Glân yr ochr draw ac mae Cariad Duw a’n cariad ninnau wrth i ni ymateb iddo yn gwneud popeth yn oddefadwy fan hyn.

Wrth i gariad Duw gael gweithio ynom ni fe allwn ninnau weithio mewn cariad yn ei fyd colledig a dod ag eraill ato.

Wrth orffwys yn y Cariad a byw’r Cariad  fe fyddwn ryw ddydd yn y byd nesa’ o bosib yn dod i weld wyneb yn wyneb.

Love doesn’t make the world go round meddai’r hen air, but it makes the journey worthwhile.

Ac yn y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni a’r cariad ddangoswn ni at ein gilydd y mae ateb holl broblemau’r ddynoliaeth.

Y GIGFRAN WEN

Hafan

Top y Dudalen

 

 

At yr Indecs