HAFAN

INDECS ERTHYGLAU

Y GIGFRAN WEN

 

Yn ystod gwyliau’r haf bu rhai o bobl ifanc yr ardal yn mynychu gwersylloedd Cristnogol yng Ngholeg Y Bala.

Gan fod y Bala braidd yn bell i ni drigolion Sir Gaerfyrddin fe wnaeth M.I.C. ddarparu bws mini yn rhad ac am ddim i gludo’r bobl ifanc.

Cafwyd amser gwych yn y ddau wersyll. Yn gyntaf oll, yn y Cwrs Ieuenctid ar gyfer oed 12 - 15 ac yna yn “Souled Out” ar  gyfer oed 16 - 25.

Digon o weithgareddau cyffrous i wneud, cyfeillion newydd i’w cyfarfod ynghyd â dysgeidiaeth berthnasol a chyfoes o’r Beibl.

Pa well ffordd sydd i gefnogi ein pobl ifanc a’u meithrin yn y ffydd na’u cymell i fynychu gwersyll Cristnogol?

Yn y blynyddoedd nesaf gobeithio bydd mwy o eglwysi yn achub ar y cyfle euraidd hwn ac yn ystyried noddi pobl ifanc i fynychu’r “Cwrs Ieuenctid” a “Souled Out.”

Bydd M.I.C. yn parhau i gynnig cludiant am ddim.

Ar ddiwedd y dydd pobl ifanc yw dyfodol yr eglwys ac mae’n angenrheidiol ein bod yn eu cefnogi ym mhob ffordd posib.

TOP

Y DUDALEN

Pobl Ifanc o eglwysi MIC bu’n mynychu’r Cwrs Ieuenctid yng Ngholeg Y Bala.

“Joio mas draw.”

Cyntaf i lawr y llithren ddwr.

Lluniau trwy ganiatad

Gwersylloedd yr Haf yng Ngholeg Y Bala

Mae’n ymddangos bod  gwersylla yn waith sychedig!!